Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 1 Hydref a dydd Mercher 2 Hydref 2013

Dydd Mawrth 8 Hydref a dydd Mercher 9 Hydref 2013

Dydd Mawrth 15 Hydref a dydd Mercher 16 Hydref 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 1 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad o Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol:  Gweithio Rhanbarthol (30 munud) 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Lansio’r Cynllun Gweithredu ar Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardrethi Busnes (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Deallusol (15 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Teithio Llesol (Cymru) (90 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Teithio Llesol (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 2 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 mewn perthynas â Safonau Ymddygiad (5 munud)

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 29 a 30A mewn perthynas â Chydsyniad Deddfwriaethol i Offerynau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat (5 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud) - Gohiriwyd

 

Dydd Mawrth 8 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyllideb Ddrafft 2014-15 (30 munud)

·         Dadl ar Dalu Costau Tai yn Uniongyrchol i Denantiaid yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo Penderfyniad Ariannol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (5 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (30 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 9 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

 

 

Busnes y Cynulliad

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Eluned Parrott (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 15 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cyflwyno'r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Llwyddiant Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i Gyllido a Hwyluso'r Gwaith o Gyflogi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: System Trafnidiaeth Integredig De Ddwyrain Cymru (30 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud)

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:  “Gweithio gyda'n gilydd i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru - Adolygiad Cymru 2012-13” (60 munuid)

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2012-13 (60 munud)

 

Dydd Mercher 16 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol (60 munud)

·         Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Llythrennedd Ariannol (Bethan Jenkins) (60 munud)

·         Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)